Os ydych wedi cael eich effeithio gan drais rhywiol, cam-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol
rydym ni yma i chi.
Nid ydych chi ar eich pen eich hun. Byddwn ni'n eich credu chi. Gallwn ni eich cynorthwyo chi.
Bywyd y tu hwnt i drais rhywiol.
Sut gall Llwybrau Newydd helpu?
- Rydym yn darparu cymorth arbenigol i oedolion, plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan drais rhywiol, ymosodiad rhywiol neu gam-drin.
- Rydym yn cynnig gwasanaethau wyneb yn wyneb, ar-lein a dros y ffôn.
- Mae gennym ganolfannau ar gyfer gwasanaethau wyneb yn wyneb ar draws de, gorllewin a chanolbarth Cymru.
Pe digwyddodd yn y 10 diwrnod diwethaf
Pe digwyddodd fwy na 10 diwrnod yn ôl
Beth allaf i ei ddisgwyl gan eich gwasanaethau?
- Rydym ni’n drugarog. Mae ein gwasanaethau’n gyfrinachol a byddwn yn eich credu.
- Rydym ni’n wybodus. Rydym wedi gweithio gyda phobl sydd wedi cael eu heffeithio gan drais rhywiol ers bron i 30 mlynedd ac rydym yn brofiadol iawn.
- Rydym ni’n gynhwysol. Rydym yn cynorthwyo pobl o bob oedran, rhywedd, cefndir cymdeithasol, cefndir ethnig, crefydd a chred, anabledd a chyfeiriadedd rhywiol. Nid yw rhai pobl yn gwybod bod gwasanaethau trais rhywiol yn gallu cynorthwyo dynion neu bobl anneuaidd, ond mae ein gwasanaethau ni i bawb.
Cwnsela a Lles
Gwasanaethau Argyfwng ac ISVA
Sut rydw i'n gwybod mai chi yw'r gwasanaeth cywir i mi?
- Rydym wedi creu adran sy’n disgrifio beth yw trais rhywiol, i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Gallwch gysylltu â ni hefyd os nad ydych chi’n siwr.
- Yn aml, y cam cyntaf yw’r anoddaf, ac rydym yn deall bod estyn allan yn gallu bod yn anodd. Mae ein cleientiaid presennol a’n cyn-gleientiaid wedi rhannu eu storïau i’ch helpu i gymryd y cam hwnnw.
- Pan fyddwch yn teimlo’n barod, gallwn eich helpu i gael at y cymorth sy’n iawn i chi.
Beth yw trais rhywiol?
Storïau profiad bywyd