Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2021
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn dathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. Mae'r diwrnod hefyd yn nodi galwad i weithredu i sicrhau cydraddoldeb rhywiol. Er bod llawer o gynnydd wedi'i wneud, mae gwaith i'w wneud o hyd, yn enwedig ym maes trais rhywiol.
Oeddech chi'n gwybod:
- Mae traean o'r holl fenywod a merched yn profi trais corfforol neu rywiol yn ystod eu hoes (UN, 2019)
- Mae un o bob dwy fenyw yn Ewrop wedi profi aflonyddu rhywiol ers yn 15 oed (FRA, 2015)
- Nid yw 35% o fyfyrwyr benywaidd a 25% o fyfyrwyr anneuaidd erioed wedi datgelu ymosodiad rhywiol (SES Survey, 2020)
- Mwy o ddefnydd o'r rhyngrwyd yn ystod pandemig COVID-19 wedi cynyddu trais ar-lein ar sail y rhywiau a'r cam-drin plant yn rhywiol ar-lein ac yn enwedig merched.
(*drwy Ganolfan Trais ac Argyfwng Dulyn)
Credwn fod newid yn dechrau gyda gwrando ar, credu a chefnogi pobl sy'n profi trais rhywiol o bob math. Cyfrifoldeb pawb yw siarad am gam-drin, aflonyddu, rhagfarn ar sail rhyw, beio dioddefwyr, ac ymddygiadau gwenwynig.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, rydym yn ymrwymo i gydweithio a gwneud gwahaniaeth i fenywod a merched. Os hoffech ein cefnogi, mae croeso i chi rannu'r graffeg hyn ar gyfryngau cymdeithasol a'n tagio.