``Rydw i wedi dysgu fy ffrindiau i gyd sut i wneud blwch dad-gyffroi synhwyraidd.``
Peidiwch â dioddef yn dawel, rydyn ni yma i helpu
Cliciwch ar y delweddau isod i fynd at y llyfrynnau.

Mae’r llyfryn hwn yn cynnig rhai syniadau a allai fod yn ddefnyddiol i chi fel dewisiadau amgen, sgiliau lleihau, gwrthdyniadau neu ffyrdd o reoli eich hunan-niwed. Efallai na fydd rhai o’r syniadau hyn yn gweithio i chi, ac mae hynny’n iawn. Efallai y byddwch yn dod o hyd i ffyrdd eraill sy’n gweithio’n well neu gallech addasu neu newid rhai o’r syniadau hyn i’w gwneud nhw’n fwy unigol i chi.
Cliciwch ar y ddelwedd i fynd at y llyfryn.
Ysgrifennwyd y llyfryn hwn gan un o’n Seicotherapyddion Celf, ac fe’i darluniwyd gan un arall o’n cyn-gleientiaid dawnus. Hoffem ddiolch yn fawr iawn iddi am ei chyfraniad a’i chefnogaeth.
***YMWADIAD*** Mae’r llyfryn hwn ar gyfer oedolion sydd wedi goroesi cam-drin rhywiol. Efallai y bydd rhywfaint o gynnwys y llyfryn hwn yn peri gofid i’w ddarllen. Felly, byddwch yn ymwybodol o’ch hunanofal wrth ddarllen hwn. Rhaid i’r darllenydd gymryd cyfrifoldeb am ofalu am ei les ei hun. Mae hwn hefyd yn ganllaw cynhwysfawr iawn, felly efallai y byddwch am ddarllen hwn mewn adrannau bach yn hytrach nag i gyd ar unwaith, a chymryd seibiannau rheolaidd. Cofiwch fod yna sefydliadau a all helpu os oes angen i chi sgwrsio; os ydych mewn trallod ffoniwch Linell Wrando: YMA neu linell gymorth Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol: YMA
Cliciwch ar y ddelwedd i fynd at y llyfryn.
Mae ‘New Pathways in Conversation’ yn gyfres o bodlediadau lle rydyn ni’n cael sgwrs gyda goroeswyr, gweithwyr rheng flaen, arweinwyr ac academyddion, am ystod o bynciau sy’n ymwneud â thrais rhywiol.
Mae’r podlediadau hyn wedi’u hanelu at bobl sydd wedi’u heffeithio’n uniongyrchol gan drais, cam-drin rhywiol ac ymosodiad rhywiol, a byddant yn agor lleoedd i siarad am bynciau anodd.
Pennod 1 - Cyfathrach ar ôl Trais Rhywiol
Yn y cyntaf o gyfres o bodlediadau ‘New Pathways in Conversation’, rydym ni’n edrych ar gyfathrach ar ôl trais rhywiol. Mae goroeswyr yn aml yn siarad am gyfathrach mewn sesiynau cymorth, ac roeddem ni am fynd i’r afael â’r mater hwn a chynnig rhywfaint o gefnogaeth ymarferol.
Mae Jenny Hughes, cyn-Weithiwr Cymorth Trais Rhywiol yn New Pathways, a Shona Langley, Therapydd Seico-Rywiol a Darlithydd, yn sôn am:
- Beth yw cyfathrach
- Sut gall trais rhywiol effeithio ar gyfathrach
- Mae rhai ymarferion diogel a hawdd eu gwneud y gall pobl roi cynnig arnynt gartref
Mae’r adnodd ar gyfer y weminar hon ar gael yma.
Mae’r podlediad hwn yn 32 munud o hyd.
Sylwch y bydd y podlediad hwn yn siarad am drais rhywiol, ac yn cynnwys rhai cyfeiriadau rhywiol. Felly, dylech wrando dim ond os ydych chi’n teimlo’n ddiogel i wneud hynny.
Sut i wneud blwch dad-gyffroi synhwyraidd
Mae’r canllaw hwn, a ysgrifennwyd gan Carolyn Spring, yn darparu syniadau, strategaethau a rhestrau i helpu pan fyddant mewn trallod:
Canllaw Adnoddau i Oroeswyr Trawma Carolyn Springs
Mae MBB yn brosiect sy’n cynnig sgrinio serfigol, gofal atal cenhedlu, profion STI a gofal mamolaeth i bobl sydd wedi profi trais rhywiol. Mae ganddyn nhw hefyd ap sy’n ganllaw cam wrth gam i’ch helpu chi i baratoi, mynychu a chwblhau eich prawf sgrinio serfigol:
Set o lyfrynnau, yn cefnogi adferiad oedolion ar ôl cam-drin plentyndod: