``Dw i'n gallu siarad â fy rhieni nawr.``

Cysylltwch â ni dros y ffôn:
01685 379 310
E-bostiwch ni:
enquiries@newpathways.org.uk
Cael mynediad i'n gwasanaethau:
Cysylltwch â ni dros y ffôn:
01685 379 310
E-bostiwch ni:
enquiries@newpathways.org.uk
Cael mynediad i'n gwasanaethau:

Ni waeth pa mor bell yn ôl y digwyddodd - wythnosau, misoedd neu flynyddoedd - nid ydych chi ar eich pen eich hun.

Gwasanaeth Lles

Mae ein gweithwyr cymorth trais rhywiol yn cynnig cymorth i unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio gan drais rhywiol. Mae hyn yn cynnwys:

  • Gweithio ar strategaethau ymdopi cadarnhaol ac ymarferion sylfaenu.
  • Gosod nodau a gweithio tuag at adfer.
  • Paratoi ar gyfer cwnsela.
  • Darparu cymorth ymarferol a chysylltu â phobl ar eich rhan.

Rydym wedi creu adran i’ch helpu i ddeall p’un a ydych chi wedi cael eich effeithio gan drais rhywiol. Gallwch gysylltu â ni hefyd os nad ydych chi’n siwr.

Beth yw trais rhywiol?

Cwnsela Arbenigol

Rydym yn cynnig cwnsela i oedolion a phlant. Gall ein cwsnela gael ei wneud trwy fideo, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Gallwch ddarganfod ble mae ein swyddfeydd yma.

Mae ein holl gwnselwyr yn gymwysedig ac yn gofrestredig, mae ganddynt brofiad o weithio gyda thrawma ac maen nhw’n cael hyfforddiant ychwanegol ar weithio gyda thrais rhywiol. Rydym ni’n cefnogi 10,000 o bobl bob blwyddyn ac wedi bod yn gweithio gyda phobl sydd wedi’u heffeithio gan drais rhywiol ers 30 mlynedd.

I gael cwnsela, gallwch atgyfeirio gan ddefnyddio’n gwefan, neu gallwch ein ffonio ni ar 01685 379, neu gall gweithiwr proffesiynol atgyfeirio ar eich rhan.

Cwnsela a Lles

Cefnogaeth ISVA

Gall ein ISVAs arbenigol (Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Rhywiol) gynnig cymorth os ydych yn ystyried adrodd i’r heddlu, neu roi gwybodaeth yn ddienw. Bydd ein ISVAs yn trafod eich opsiynau. Mae gan ein ISVAs wybodaeth arbenigol am yr heddlu a’r system cyfiawnder troseddol a gallant roi gwybod i chi beth i’w ddisgwyl.

Mae ein cwnselwyr a’n gweithwyr cymorth trais rhywiol yn gallu atgyfeirio i ISVA ar eich rhan, neu gallwch ein ffonio ni ar 01685 379 310 i ofyn i ni ffonio’n ôl.

Cefnogaeth ISVA ar gyfer Profiadau yn y Gorffennol

Adnoddau a Llinellau Cymorth

Gwyddom fod trawma o drais rhywiol yn gallu llorio rhywun. Os bydd angen cymorth arnoch â rheoli hunllefau, ôl-fflachiau neu obryder, mae gennym adnoddau a grëwyd gan un o’n cwnselwyr.

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd neu rydych mewn argyfwng, os oes angen cymorth iechyd meddwl arnoch ar unwaith neu os ydych yn meddwl am ladd eich hun, ffoniwch linell gymorth CALL 24 ar 0800 132 737.

Newyddion Diweddaraf a Diweddariadau

Os yw trais rhywiol wedi effeithio arnoch, rydym yma i chi

    Dilynwch Llwybrau Newydd ar y cyfryngau cymdeithasol


    Llwytho...