Amdanom Ni

Cefnogi oedolion a phlant sydd wedi cael eu heffeithio gan drais rhywiol, cam-drin rhywiol ac ymosodiad rhywiol ers 1993.

Amdanom Ni

 

Ni yw darparwr cymorth trais rhywiol mwyaf Cymru, gyda 30 mlynedd o brofiad o gyflwyno cymorth therapiwtig arbenigol i oedolion a phlant sydd wedi cael eu heffeithio gan drawma trais rhywiol, ymosodiad rhywiol neu gam-drin rhywiol.

Fel sefydliad elusennol, rydym yn cynnig ystod lawn o wasanaethau argyfwng, eiriolaeth, lles a chwnsela arbenigol, yn rhad ac am ddim. A ninnau’n sefydliad blaenllaw yn ein maes, rydym yn uchel ein parch ar draws y DU. Rydym yn cynorthwyo bron i 4,000 o bobl bob blwyddyn.

Y tu hwnt i hynny, rydym yn defnyddio’n profiad a’n harbenigedd i hyfforddi ac addysgu pobl eraill am effaith amrywiol trais rhywiol a cham-drin rhywiol, ac yn defnyddio’n llais i eiriol ar ran pobl sy’n aml yn cael eu distewi gan stigma.

Mae ein tîm ymroddgar o 150 a mwy o staff a gwirfoddolwyr yn gwneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod ein cleientiaid yn cael gwasanaeth rhagorol sy’n bodloni eu hanghenion; maen nhw’n haeddu dim llai. I gael mwy o wybodaeth am ein tîm, cliciwch yma.

Ein Hanes
Ein Gwerthoedd

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â'n tîm?

    Dilynwch Llwybrau Newydd ar y cyfryngau cymdeithasol


    Llwytho...