``Dydw i ddim yn beio fy hun bellach. Rwy'n gwybod nad oeddwn i ar fai.``
Gall trais rhywiol effeithio ar unrhyw un, ar unrhyw adeg yn eu bywyd, ni waeth beth yw eu hoedran, rhywedd, cefndir cymdeithasol, cefndir ethnig, crefydd neu gred, anabledd neu gyfeiriadedd rhywiol.
Mae deddfwriaeth yng Nghymru yn diffinio bod trais rhywiol yn dreisio, yn gam-drin rhywiol gyda chyswllt a heb gyswllt, yn gamfanteisio rhywiol ac yn ymosod yn rhywiol.
Mae sawl math o drais rhywiol, a bydd pob person sy’n profi trais rhywiol yn cael ei effeithio’n wahanol. Mae yna hefyd lawer o fythau a chamddealltwriaeth ynghylch trais rhywiol. Gall hyn ei gwneud hi’n anodd gwybod os oedd yr hyn a ddigwyddodd i chi yn drais rhywiol.
Gall trais rhywiol gael ei gyflawni gan rywun rydych chi’n ei adnabod, gan gynnwys aelodau’ch teulu, a gall ddigwydd o fewn perthnasoedd. Gall trais rhywiol gael ei gyflawni gan berson dieithr hefyd.
Gall trais rhywiol ddigwydd i oedolion a phlant. Mae trais rhywiol yn effeithio’n bennaf ar fenywod a gall fod yn fater sy’n gysylltiedig â rhywedd, ond nid yw rhai pobl yn ymwybodol bod trais rhywiol hefyd yn effeithio ar ddynion a phobl anneuaidd, ac mae ein gwasanaethau ni i bawb.
Gobeithio bydd y rhestr hon yn gallu’ch helpu i gael y cymorth rydych chi ei angen.
Y diffiniad cyfreithiol o dreisio yw ‘Pan fydd person yn treiddio fagina, anws neu geg rhywun arall gyda phidyn, heb ganiatâd’.
Ymosodiad Rhywiol
Y diffiniad cyfreithiol o Ymosodiad Rhywiol yw ‘Gweithred o ymyrryd yn gorfforol, yn seicolegol ac yn emosiynol ar ffurf gweithred rywiol, wedi’i gorfodi ar rywun heb ganiatâd. Gall gynnwys gorfodi neu ddylanwadu ar rywun i orfod bod yn dyst i unrhyw weithredoedd rhywiol neu gymryd rhan ynddynt’.
Gall ymosodiad rhywiol gynnwys cyffwrdd â dillad, cael eich cyffwrdd neu geisio gafael arnoch yn ddigroeso, neu rywun yn rhwbio ardal y pelfis yn eich erbyn.
Mae treiddio i fagina neu anws person arall gyda rhan o’r corff heblaw pidyn, neu gyda gwrthrych, a hynny heb ganiatâd, yn cael ei ddiffinio’n ‘ymosodiad rhywiol trwy dreiddio’. Yr un yw’r ddedfryd ar gyfer y drosedd hon â threisio.
Cam-drin Plant yn Rhywiol
Ni all plentyn fyth roi caniatâd i weithgaredd rhywiol gydag oedolyn.
Pan fydd oedolyn, neu blentyn hŷn neu gymheiriad, yn codi ofn ar blentyn, yn dylanwadu arno, yn ei dwyllo neu’n ei orfodi i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, cam-drin rhywiol yw hyn. Gall hyn gynnwys gweithgaredd â chyswllt (e.e. treisio, mastyrbio, cusanu a chyffwrdd), ynghyd â gweithgaredd heb gyswllt (e.e. siarad rhywiol cignoeth neu ddangos pornograffi i blant).
Gall oedolyn, plentyn hŷn neu gymheiriad gam-drin plant yn rhywiol.
Masnachu at Ddibenion Rhyw
Y diffiniad o fasnachu at ddibenion rhyw yw ‘pan fydd oedolion neu blant yn cael eu recriwtio, eu llochesu, eu cludo, eu darparu neu eu cael, o dan rym, twyll neu orfodaeth, i gyflawni gweithred rywiol fasnachol’. Nid oes rhaid i fasnachu at ddiben rhyw gynnwys teithio na symud ar draws ffiniau ac mae’n digwydd i bobl a aned yn y DU, ar dir y DU. Nid oes rhaid i’r ‘taliad’ am y weithred ryw gynnwys arian; gallai’r buddion gynnwys unrhyw fantais y mae’r masnachwr (neu berson arall) yn ei chael, fel budd neu fraint personol ynghyd â buddion ariannol neu eiddo.
Camfanteisio’n Rhywiol
Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant yw cymryd mantais ar blentyn neu berson ifanc trwy anghydbwysedd grym, i orfodi neu ddylanwadu arnynt i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol. Gall camfanteisio gynnwys rhoi pethau iddynt, fel rhoddion, cyffuriau, arian, statws ac anwyldeb, neu gall gynnwys gorfodi, fel bygythiadau neu flacmel. Gall y plentyn neu’r person ifanc gredu bod y gweithgaredd rhywiol yn gydsyniol, ond ni all plentyn roi caniatâd i weithgaredd rhywiol gydag oedolyn. Nid yw camfanteisio’n rhywiol bob amser yn cynnwys cysylltiad corfforol, a gall ddigwydd trwy ddefnyddio technoleg (fel gorfodi rhywun i rannu delweddau rhywiol cignoeth ar-lein).
Aflonyddu Rhywiol
Y diffiniad o Aflonyddu Rhywiol yw ‘ymddygiad digroeso o natur rywiol sydd: yn ymyrryd â’ch urddas; yn gwneud i chi deimlo’ch bod yn cael eich bygwth, eich iselhau neu’ch bychanu; yn creu amgylchedd gelyniaethus neu atgas’.
Gall aflonyddu rhywiol gynnwys profiad o rywun yn dinoethi ei hun yn anweddus i chi, anfon delweddau o natur rywiol atoch neu eu rhoi i chi, neu fygythiadau rhywiol neu ymddygiad rhywiol digroeso tuag atoch.
(Deddfwriaeth/polisi swyddogol: https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2003/42/2017-03-31?view=plain, https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-07/cynllun-gweithredu-cenedlaethol-atal-ac-ymateb-i-gam-drin-plant-yn-rhywiol.pdf, https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2015/30/contents/enacted, https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2010/15/contents).
- Roedd gan y person alluedd (h.y. yr oedran a’r ddealltwriaeth) i wneud dewis a ddylai gymryd rhan yn y gweithgaredd rhywiol ar y pryd ai peidio.
- Roedd y person mewn sefyllfa i wneud y dewis hwnnw’n rhydd, ac nid oedd wedi’i gyfyngu mewn unrhyw ffordd.
Mae rhai pethau allweddol i’w nodi ynglŷn â chaniatâd:
- Ni all plant byth gydsynio i weithgaredd rhywiol gydag oedolyn.
- Gellir tynnu caniatâd yn ôl unrhyw bryd. Ni all rhywun barhau â gweithred neu weithgaredd rhyw os ydych wedi tynnu caniatâd yn ôl.
- Ni ellir rhoi caniatâd os yw rhywun mor dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol fel nad ydynt yn eu cyflwr meddwl cywir.
- Ni ellir rhoi caniatâd os nad yw rhywun yn teimlo’n rhydd i ddweud na. Os yw rhywun yn cael ei fygwth, ei gadw neu ei orfodi, ni allant gydsynio.
- Os nad oes gan rywun alluedd meddyliol i gydsynio, oherwydd anabledd neu gyflwr meddwl, yna ni allant gydsynio.
- Ni ellir rhoi caniatâd os yw rhywun yn cysgu neu’n anymwybodol.
Nid yw caniatâd yn golygu ‘dweud na’ yn unig. Os bydd rhywun yn aros yn dawel ac nad yw’n symud, os yw’n symud i ffwrdd neu’n ceisio gwthio’r person hwnnw i ffwrdd, neu os yw rhywun yn amlwg yn drallodus neu’n ofidus, nid caniatâd yw hwn. Bydd llawer o bobl sydd wedi profi trais rhywiol yn aros yn dawel ac yn ‘rhewi’ neu’n ‘ddiymadferth’. Nid yw hyn yn golygu eu bod wedi rhoi caniatâd.