``Roedd hi'n bwysig i mi gael yr opsiwn o gwnsela dros y ffôn oherwydd lle rwy'n byw.``
Canolfan Cymorth Trais Canolbarth Cymru
Nodwyd bod pobl yn ardaloedd canolbarth Cymru’n ei chael hi’n fwy anodd cael gafael ar wasanaethau, felly crëwyd y ganolfan i gefnogi unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio gan drais rhywiol, yn ddiweddar neu yn y gorffennol.
Ydy, mae Canolfan Cymorth Trais Canolbarth Cymru yn cynnig yr un gwasanaethau i oedolion sydd wedi cael eu heffeithio gan drais rhywiol, sy’n cynnwys cwnsela, cymorth ac eiriolaeth. Mae ein gwasanaethau yn agored i bawb, o bob oed, rhywedd, cefndir cymdeithasol, cefndir ethnig, crefydd a chred, anabledd a chyfeiriadedd rhywiol.
Dysgwch fwy am y gwasanaethau hyn, a sut i gael mynediad atynt, isod:
Mynnwch help neu cyfeiriwch rywun atom
Plant a phobl ifanc o dan 18:
Mae Canolfan Cymorth Trais Canolbarth Cymru’n cynnig gwasanaethau cwnsela, cymorth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc o 3 oed ymlaen. Mae ein gwasanaeth cwnsela plant a phobl ifanc ar agor i unrhyw blentyn neu berson ifanc o dan 18 oed sydd wedi profi trais rhywiol. I ddysgu rhagor am ein gwasanaethau i blant a phobl ifanc, gweler yma.
Mae ein gwasanaethau cymorth yn cael eu darparu ar-lein neu dros y ffôn hefyd, felly gallwch gael cymorth, cwnsela ac eiriolaeth heb orfod ymweld ag un o’n swyddfeydd.
I gael gwybodaeth am sut i atgyfeirio’ch hun, neu rywun arall, i’n gwasanaethau, gweler yma.