``Rwyf mor falch o fod yn cefnogi gwaith New Pathways sy'n newid bywydau``
Cyfrannwch heddiw a helpwch ni i weithio tuag at fyd heb drais rhywiol.
A nifer fach yn unig yw’r rhain. Mae yna lawer o bobl sydd heb ddod ymlaen o hyd.
Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi ein helpu ni i wneud yn siŵr bod pob person yng Nghymru sydd wedi’u heffeithio gan drais rhywiol yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.
Gall pob rhodd wneud gwahaniaeth. Mae ein holl wasanaethau yn cael eu cynnig am ddim i’r rhai sydd eu hangen, felly gall hyd yn oed ychydig bunnoedd wneud gwahaniaeth – gall £9 brynu llyfr stori a all helpu plentyn i ymdopi â thrawma cam-drin rhywiol.
Os gallwch chi sbario rhywfaint o arian am rodd unigol neu fisol, cyfrannwch drwy’r ddolen i’n platfform codi arian (Enthuse).
Ydych chi’n cynnal arwerthiant pobi, neu’n rhedeg 10k, neu’n cynnal noson gomedi? Os felly, ystyriwch godi arian i ni.
Gallwn hefyd ddarparu taflenni a gwybodaeth i’ch helpu i godi arian a chodi ymwybyddiaeth. Byddwn yn rhannu eich digwyddiadau neu’ch codwyr arian ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, ac os yw’n bosibl, gallem anfon cynrychiolydd i’ch digwyddiad i ddiolch i’r rhai sy’n rhoi.
Os hoffech godi arian i ni, neu os ydych eisoes wedi gwneud hynny, cysylltwch â: communications@newpathways.org.uk, neu drwy unrhyw un o’n digwyddiadau cymdeithasol. Neu gallwch glicio ar y ddolen i fynd i mewn i’n platfform codi arian! !