Cyrsiau Cwnsela
Coleg Cwnsela Llwybrau Newydd
Ers 2018, rydym wedi rhedeg Coleg Cwnsela ffyniannus yn New Pathways. Fel darparwyr cymorth trais rhywiol arbenigol, mae gennym bron i 30 mlynedd o brofiad o ddarparu cymorth therapiwtig arbenigol i oedolion a phlant yr effeithir arnynt gan drawma cymhleth.
Mae gennym enw da ym maes cwnsela a hyfforddi ac rydym yn darparu amgylchedd cefnogol gyda thiwtoriaid arbenigol sy’n gwnselwyr gweithredol ac yn athrawon cymwysedig. Rydym yn cynnig profiad dysgu sy’n ddilys ac yn broffesiynol, o’ch cam cyntaf i mewn i gwnsela i ddatblygiad proffesiynol gyda diploma arbenigol mewn gweithio gyda thrawma a thystysgrif mewn goruchwylio cwnsela.
Rydym yn darparu cyfleoedd ar gyfer dilyniant cwrs, lleoliadau mewnol, a DPP pellach. Fel elusen, mae unrhyw incwm a gynhyrchir gan ein Coleg Cwnsela yn cael ei ddychwelyd i’n gwasanaethau elusennol fel y gallwn barhau i gefnogi pobl y mae trais rhywiol yn effeithio arnynt.
Ynglŷn â CPCAB:
Mae ein cyrsiau yn cael eu dilysu gan y CPCAB (Corff Dyfarnu Canolog Cwnsela a Seicotherapi). Corff dyfarnu yn y DU yw CPCAB a reolir gan gwnselwyr, hyfforddwyr a goruchwylwyr proffesiynol. Gan weithredu am 25 mlynedd, dyma’r unig gorff dyfarnu yn Ewrop i arbenigo ym maes cwnsela.
Gweler ein cyrsiau isod:
Tystebau'r Coleg Cwnsela
“Cynnwys y cwrs oedd yr union beth yr oedd ei angen arnaf i ar gyfer fy nhaith at fod yn Oruchwylydd. Roedd yn addysgiadol a gwnaeth fy helpu i ddatblygu fy arddull oruchwylio. Mae arddulliau a gwybodaeth Debbie a Michelle yn ategu ei gilydd ac maen nhw’n cynnig profiad dysgu gwirioneddol wych.” – Cyfranogwr y cwrs, Tystysgrif Lefel 6 mewn Goruchwyliaeth Cwnsela Therapiwtig
“Gall mynd i’r coleg neu’r brifysgol deimlo’n beth mawr, ond roedd cwblhau cwrs Llwybrau Newydd yn teimlo’n ‘iawn’ i mi ac roeddwn i am gwrs a oedd yn cael ei barchu yn y byd cwnsela. Ddysgais i gymaint o’r cwrs hwn. Dysgais i gymaint am y sgiliau y mae eu hangen i fod yn helpwr ac, yn y pen draw, yn gwnselydd. Roedd gymaint yn fwy na dim ond sgiliau cwnsela, roedd am bobl ac am fywyd.” – Cyfranogwr y cwrs, Tystysgrif Lefel 2 mewn Sgiliau Cwnsela
“Gwnaeth y tiwtoriaid y profiad yn gofiadwy ac roedd fel petaem ni i gyd yn gymheiriaid, nid myfyrwyr. Gwnaethom ddod at ein gilydd mor dda ac er ei fod ar-lein, roedd yn fan diogel a chawsom ansawdd yr addysgu. Roedd yn ddifyr iawn; yn wir, roedd yn ysbrydoledig. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i staff Llwybrau Newydd am eu holl gymorth, ac rwy’n difaru na fyddwn wedi gwneud fy holl hyfforddiant cwnsela gyda Llwybrau Newydd.” – Cyfranogwr cwrs, y Diploma Lefel 5 mewn Cwnsela ar gyfer Trawma
“Diolch yn fawr am y cwrs, bu’n ddiddorol, yn gyfeillgar ac yn hygyrch iawn. Rwy’ wedi dysgu llawer amdanaf fy hun ac am sgiliau cwnsela a gwrando. Mae llawer mwy iddo nag y mae pobl yn ei sylweddoli. Roeddwn i wedi bod eisiau bod yn gwnselydd erioed ac rwy’n bwriadu parhau â’m taith gyda Llwybrau Newydd. Mae’r arddull dysgu fan hyn yn gweddu i’r dim ac mae strwythur da iawn i bopeth, sy’n glir iawn, gyda thiwtoriaid cyfeillgar ac ymatebol.” – Cyfranogwr y cwrs, Tystysgrif Lefel 2 mewn Sgiliau Cwnsela
“Mae llawer o bobl yn dechrau gweithio fel cwnselwyr ar ôl lefel 4, heb sylweddoli beth nad ydynt yn ei wybod am drawma. Yn fy marn i, dylai pawb ddilyn y cwrs hwn i ddysgu am sefydlogi ac ymagweddau fesul cam at waith trawma. Mae tiwtoriaid y Llwybrau Newydd yn arbennig, roedd cymaint yn fwy o strwythur i’r cwrs nag fy lefel 4 yn y Brifysgol a chyflwynwyd y cwrs yn berffaith dros Zoom.” – Cyfranogwr cwrs, y Diploma Lefel 5 mewn Cwnsela ar gyfer Trawma
“Wrth astudio gyda Llwybrau Newydd, ces i gymaint o gefnogaeth ac rwy wedi magu cymaint yn fwy o hyder. Rwy’n gallu gweld hynny yn fy ysgrifennu ac fy ymarfer. Cefais gymorth ychwanegol gyda fy nyslecsia ac rydyn ni’n cael cymorth ac arweiniad gyda’rdechnoleg.Rwy’ mor falch i mi wneud y cwrs hwn. Cawson ni’n trin fel gweithwyr proffesiynol gydol y cwrs a dysgon ni gymaint gan ein gilydd.” – Cyfranogwr cwrs, y Diploma Lefel 5 mewn Cwnsela ar gyfer Trawma