``Rydw i wedi dysgu i reoli fy sbardunau. Rwy'n teimlo fel fi fy hun eto.``
Gwasanaethau Lles
Gwasanaeth Lles
Mae’n wasanaeth peidio â datgelu sy’n cynnig:
- gwasanaeth byr cyn-cwnsela sy’n paratoi ar gyfer cwnsela ac sy’n helpu cleientiaid i gael y mwyaf o gwnsela
- pecyn cymorth hirach, manwl sy’n ddewis amgen i gwnsela ac a all helpu cleientiaid i ddelio ag amrywiaeth eang o faterion y gallent fod yn eu profi.
Hefyd, rydym yn cynnig cymorth ymarferol, er enghraifft gyda hawliadau tai neu anabledd, ac yn cysylltu â phobl ar eich rhan, fel gweithwyr iechyd proffesiynol.
Trwy gydol y flwyddyn, rydym hefyd yn cynnig grwpiau seico-addysgol i bobl ifanc ac oedolion, o’r enw Tawelu’r Tonnau a Newid y Môr. Gweler mwy isod.
Os nad ydych yn siwr ai trais rhywiol oedd yr hyn a ddigwyddodd i chi, cewch ddysgu rhagor amdano yma.
Rydym ar agor i bawb, o bob oedran, rhywedd, cefndir cymdeithasol, cefndir ethnig, crefydd a chred, anabledd a chyfeiriadedd rhywiol.
Nid yw rhai pobl yn gwybod bod gwasanaethau trais rhywiol yn gallu cynorthwyo dynion neu bobl anneuaidd, ond mae ein gwasanaethau ni i bawb.
Gwasanaethau Cwnsela Trais Rhywiol Arbenigol

Gwasanaethau Cwnsela
Mae ein gwasanaeth cwnsela wedi bod yn effeithiol ac yn fuddiol tu hwnt ar gyfer adfer yn dilyn trawma rhywiol. Mae gan bawb anghenion a phroblemau unigol i’w goresgyn, ond dyma rai o’r materion cyffredin rydym ni’n helpu pobl gyda nhw:
- Hunan-barch isel
- Euogrwydd a chywilydd
- Pryder ac ofn
- Symptomau anhwylder straen wedi tramwa (PTSD) (fel ôl-fflachiau, datgysylltiad, hunllefau ac ati)
- Iselder
- Hunan-niweidio
- Meddyliau a theimladau hunanladdol
- Dicter
Rydym ar agor i bawb, o bob oedran, rhywedd, cefndir cymdeithasol, cefndir ethnig, crefydd a chred, anabledd a chyfeiriadedd rhywiol.
Nid yw rhai pobl yn gwybod bod gwasanaethau trais rhywiol yn gallu cynorthwyo dynion neu bobl anneuaidd, ond mae ein gwasanaethau ni i bawb.
Os ydych chi wedi dioddef trais, ymosodiad rhywiol neu gam-drin rhywiol ac rydych yn wrywaidd neu’n anneuaidd, gallwch gael yr union un lefel o wasanaeth a chymorth gan Llwybrau Newydd a byddem yn eich annog chi i siarad â ni.