``Together we can make a difference.``

Meet the senior management team

Jackie Stamp
Jackie Stamp
Prif Swyddog Gweithredol
Ar ôl dechrau gyrfa ym maes cyllid, ymunodd Jackie â Llwybrau Newydd fel cwnselydd gwirfoddol ym 1995. Ers dod yn aelod staff ym 1999, chwaraeodd ran hollbwysig mewn sefydlu'r Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol cyntaf yng Nghymru. Daeth Jackie yn Brif Swyddog Gweithredol yn 2010 ac mae hi wedi cynyddu incwm a chyrhaeddiad y sefydliad yn sylweddol. Hefyd, mae ganddi Ddiploma Ôl-raddedig mewn Cwnsela.
Mike Wilkinson
Mike Wilkinson
Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol
Cyn ymuno â Llwybrau Newydd yn 2008, bu Mike yn gweithio gyda'r gwasanaeth carchardai, yn rheoli canolfan ddydd therapiwtig a pheilota gwasanaeth cwnsela ac eiriolaeth yn y gymuned, tra'n gwirfoddoli hefyd fel cwnselydd ar gyfer Llwybrau Newydd. Mae gan Mike brofiad sylweddol ym maes datblygu busnes a daeth yn Ddirprwy Brif Swyddog Gweithredol yn 2010. Mae ganddo Radd mewn Cwnsela (Therapi Gwybyddol Ymddygiadol).
Matt Sheehan
Matt Sheehan
Head of Sexual Behaviour Services
Mae gan Matt BSc mewn Seicoleg, BA mewn Cyfiawnder Cymunedol, MSc mewn Seicoleg, Diploma Ôl-raddedig mewn Seicoleg Fforensig ac mae'n swyddog prawf cymwysedig (DipPS). Mae wedi cael ei hyfforddi i gynnal asesiadau ac ymyriadau fforensig a seicolegol, wedi gweithio ar draws gwasanaethau fforensig ac iechyd meddwl, ac mae wedi arbenigo mewn ymddygiad rhywiol niweidiol, trais a thrawma cymhleth. Cyn ymuno â Llwybrau Newydd, bu'n rheoli gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid a gwasanaethau CAMHS arbenigol.
Dr Leigh Martin
Dr Leigh Martin
Pennaeth Datblygu Busnes a Chodi Arian
Mae Leigh Martin yn weithiwr proffesiynol datblygu busnes profiadol yn y trydydd sector ac mae ganddi brofiad o redeg sefydliad adwerthu masnachol llwyddiannus. Ar ôl dechrau ei gyrfa fel gwyddonydd ymchwil academaidd, mae wedi gweithio'n fwy diweddar yn y sectorau iechyd meddwl a thai. Mae Leigh yn awdur 3 gwerslyfr gwyddoniaeth ac mae ganddi B.Sc. (Anrh.) mewn Bioleg a D.Phil mewn Biocemeg.
Debbie Woodroffe
Debbie Woodroffe
Pennaeth Hyfforddiant ac Ymchwil
Mae Debbie wedi gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ers dros 30 mlynedd. Mae'n gwnselydd a goruchwylydd cymwysedig ac mae'n weithiwr cymdeithasol cofrestredig. Mae ganddi radd Meistr mewn Polisi Cymdeithasol a TAR mewn Addysg Ôl-orfodol. Mae gan Debbie ddiddordeb arbennig yn effaith trawma ar gleientiaid ac ar weithwyr. Mae'n bennaeth ar Adran Hyfforddiant Llwybrau Newydd a'i Goleg Cwnsela.
Sarah Thomas
Sarah Thomas
Pennaeth Gwasanaethau Ymosodiadau Rhywiol
Dechreuodd angerdd Sarah pan fu'n cefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan drais a cham-drin rhywiol yn ne-ddwyrain Asia. Ymunodd â Llwybrau Newydd yn 2008 fel gweithiwr argyfwng ac ISVA, cyn symud ymlaen i'w rôl bresennol. Mae ganddi nifer o gymwysterau: cymhwyster ISVA, Diploma mewn Cwnsela, BSc mewn Troseddeg a Seicoleg, Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, a chymwysterau Rheolwr ISVA a Rheolwr Gwasanaeth.
Katryn Bennett
Katryn Bennett
Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol
Fel athro uwchradd profiadol, bu Katryn mewn swyddi rheoli a bu'n addysgu cwrs TAR Prifysgol De Cymru. A hithau'n newid gyrfa, bu Katryn yn gweithio yn y sector gwirfoddol, ym maes cam-drin domestig a thai. Ymunodd Katryn â ni yn 2012 ac mae'n gyfrifol am wasanaethau corfforaethol a sicrhau ansawdd. Mae gan Katryn nifer o gymwysterau: BSc mewn Daearyddiaeth, TAR, MA mewn Addysg, Dyfarniad A1 Gwiriwr Mewnol, Dyfarniadau Lefel 5 mewn addysgu Llythrennedd a Rhifedd, Lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad, a Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
Amanda Cooper
Amanda Cooper
Pennaeth Cyllid
Mae Amanda yn weithiwr proffesiynol profiadol ym maes cyllid, gyda rolau blaenorol ym maes gweinyddu cyllid, rheoli cyfrifon, cyfrifeg rheoli a rheolaeth ariannol. Ymunodd yn 2012 ac mae ganddi gymhwyster AAT NVQ 4 mewn Cyfrifeg a chymhwyster Blwyddyn 1 ACCA.

Newyddion Diweddaraf a Diweddariadau

If you have been affected by sexual violence, we are here for you.

    Dilynwch Llwybrau Newydd ar y cyfryngau cymdeithasol


    Llwytho...