``Fe wnaethoch chi achub ein teulu.``

Cysylltwch â ni dros y ffôn:
01685 379 310
E-bostiwch ni:
enquiries@newpathways.org.uk
Cael mynediad i'n gwasanaethau:
Cysylltwch â ni dros y ffôn:
01685 379 310
E-bostiwch ni:
enquiries@newpathways.org.uk
Cael mynediad i'n gwasanaethau:

Gallwn eich helpu i benderfynu sut i symud ymlaen.

Cymorth Argyfwng SARC

Beth yw SARC?

Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol yw SARC. Mae SARC yn helpu pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan drais rhywiol neu ymosodiad rhywiol.

Bydd un o’n gweithwyr argyfwng yn cyfarfod â chi yn y SARC ac yn trafod eich opsiynau gyda chi. Os siaradoch â’r heddlu i ddechrau, byddan nhw’n ein ffonio ni i drefnu i chi gyfarfod â gweithiwr argyfwng yn y SARC. Os nad ydych am siarad â’r heddlu, gallwch gyfeirio’ch hun trwy ffonio 01685 379 310 neu trwy gysylltu â ni trwy ein gwefan i ni eich ffonio chi nôl.

Mae ein canolfannau SARC ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, bob dydd o’r flwyddyn.

Beth yw trais rhywiol?

ISVAs (Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Rhywiol)

Beth yw ISVA?

Mae ein cynghorwyr ISVA yn cynnig cymorth parhaus. Gall y cymorth fod yn wahanol i bob unigolyn, ond gall gynnwys:

  • Eich cynorthwyo chi ag achosion llys.
  • Siarad ag eraill ar eich rhan a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw ddatblygiadau.
  • Eich cynorthwyo chi â’ch lles emosiynol, fel strategaethau ymdopi cadarnhaol, a chynnig man diogel a chyfrinachol i chi lle y gallwch siarad.

Gallwch droi at ein cymorth, p’un a fyddwch chi’n dewis mynd at yr heddlu ai peidio. Gall ein cynghorwyr ISVA gynnig cyngor ar roi gwybod i’r heddlu neu roi gwybodaeth yn ddienw, neu mae dewis gennych fynd yn uniongyrchol at ein gwasanaethau cwnsela a lles.

Gwasanaethau SARC & ISVA

Adnoddau a Llinellau Cymorth

Hunangymorth a chefnogaeth

Gwyddom fod trawma o drais rhywiol yn gallu llorio rhywun. Os bydd angen cymorth arnoch â rheoli hunllefau, ôl-fflachiau neu orbryder, mae gennym adnoddau a grëwyd gan un o’n therapyddion.

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd neu rydych mewn argyfwng, os oes angen cymorth iechyd meddwl arnoch ar unwaith neu os ydych yn meddwl am ladd eich hun, ffoniwch linell gymorth CALL 24 ar 0800 132 737.

Newyddion Diweddaraf a Diweddariadau

Os yw trais rhywiol wedi effeithio arnoch chi, rydyn ni yma i chi.

    Dilynwch Llwybrau Newydd ar y cyfryngau cymdeithasol


    Llwytho...