Hyfforddiant Pwrpasol
Mae gennym amrywiaeth o gyrsiau arbenigol ar gael
A ninnau’r darparwr cymorth trais rhywiol mwyaf yng Nghymru, gyda bron i 30 mlynedd o brofiad o gyflwyno cymorth therapiwtig arbenigol i oedolion a phlant sydd wedi cael eu heffeithio gan drawma cymhleth, mae ein hadran hyfforddiant wedi bod yn cyflwyno cyrsiau arbenigol ar bynciau o Weithio’n Ddiogel gyda Thrawma, i Ddiogelu, ers dros 20 mlynedd.
Dros y blynyddoedd, rydym wedi hyfforddi miloedd o ymarferwyr llinell flaen, gwirfoddolwyr a gweithwyr proffesiynol, ac rydym wedi ennill enw da am ragoriaeth yn y maes hwn. Yn 2020-2021 yn unig fe wnaethom hyfforddi mwy na 4400 o bobl, a dywedodd 99% o fynychwyr cyrsiau bod y cyrsiau yn ‘dda iawn’ neu’n ‘ardderchog.’
Costau ac Archebu:
Mae prisiau ein cyrsiau yn amrywio, yn dibynnu ar eu hyd a’r math o sefydliad.
I archebu cyflwyniad cwrs, neu i siarad mwy am eich anghenion ar gyfer cwrs pwrpasol, e-bostiwch training@newpathways.org.uk.
Ein Cyrsiau:
Mae ein cyrsiau yn aml yn bwrpasol a gellir eu teilwra i ddarparu ar gyfer anghenion eich sefydliad neu grŵp. Cewch weld sampl o’n cyrsiau isod ond os nad yw’r hyn sy’n ofynnol i chi ar y rhestr, anfonwch e-bost atom a gallwn siarad am yr hyn y gallwn ei gynnig.
Trais Rhywiol
Ymarfer sy'n Ystyriol o Drawma
Trawma Dirprwyol / Gwydnwch
Diogelu
Iechyd Meddwl ac Ymwybyddiaeth o Hunanladdiad
Cyrsiau seiliedig ar sgiliau
Cymunedau nas clywir yn aml / Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol
Hyfforddiant Gofalwyr Maeth
Cyrsiau Ymwybyddiaeth Trais Rhywiol
Cyrsiau Trawma Dirprwyol
Cwrs Ymwybyddiaeth o Hunanladdiad
Roedd yr hyfforddiant yn fuddiol iawn ac mae wedi gwella fy ngwybodaeth am ffoaduriaid a cheiswyr lloches a’r cymorth sydd ar gael iddynt.”
“Roeddwn i’n teimlo bod yr hyfforddiant yn dda iawn a hynny (yr hyfforddwr) gwneud gwaith gwych. Ar gyfer pwnc mor anodd doeddwn i ddim yn teimlo bod y sesiwn yn rhy drwm o gwbl. Roedd yr holl wybodaeth yn glir iawn ac roeddwn i’n hoffi’r agweddau rhyngweithiol ar yr hyfforddiant, yn ogystal â rhannu’n grwpiau ar gyfer trafodaethau.”
Cwrs Gweithio gyda Thrais Rhywiol
Cwrs Ymarfer sy'n Ystyriol o Drawma
Diogelu Plant a Phobl Ifanc
Trais Rhywiol a Chamddefnyddio Sylweddau
“Dyma’r ail gwrs i mi gymryd rhan ynddo gyda Llwybrau Newydd ac roedd yn fuddiol ac yn berthnasol i’m rôl. Hoffwn i gael gwybod am hyfforddiant yn y dyfodol, os yw’n bosibl.”
“Hyfforddiant difyr ac addysgiadol iawn. Rwy’ wedi adeiladu ar fy ngwybodaeth bresennol ac enillais wybodaeth newydd am y ffordd y mae gwasanaethau cymorth yn gweithredu. Dyma’r ail dro i mi gael hyfforddiant gyda Helen Jenkins ac roedd cystal â’r tro cyntaf. Mae hi’n wybodus wrth gyflwyno cynnwys ac ateb cwestiynau, mae’n hawdd ei deall a’i dilyn ac mae’n creu awyrgylch croesawgar a deniadol, er gwaethaf y pwnc difrifol a phellter hyfforddiant ar-lein TEAMS. Fe wnes i wir fwynhau a byddwn yn argymell y cwrs.”