Llinellau cymorth | Cefnogaeth Arall
Llinellau cymorth

Os ydych chi, aelod o’ch teulu, ffrind neu rywun rydych chi’n pryderu amdano wedi profi cam-drin domestig neu drais rhywiol, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, i gael cyngor a chymorth neu i drafod eich opsiynau, a hynny yn rhad ac am ddim.

Os ydych chi’n teimlo wedi’ch llethu, mewn argyfwng, neu’n meddwl am hunanladdiad, mae llinell gymorth CALL 24/7 yn cynnig cymorth ffôn neu neges destun. Maent yn darparu cymorth gwrando cyfrinachol, ac mae ganddynt hefyd gronfa ddata o asiantaethau lleol a all gynnig cymorth.
Mae ganddyn nhw adnoddau ar eu gwefan hefyd.

Mae’r Samariaid yn cynnig gwasanaeth llinell gymorth, negeseuon testun ac e-bost 24/7 i unrhyw un sydd mewn argyfwng. Maen nhw’n darparu llinell gymorth Gymraeg. Hefyd, mae ganddyn nhw ap hunangymorth.