``Oni bai am fy ISVA, dydw i ddim yn credu y byddwn i yma o hyd.``
Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Rhywiol (ISVAs)

Nid yw rhai pobl yn gwybod bod gwasanaethau trais rhywiol yn gallu cynorthwyo dynion neu bobl anneuaidd, ond mae ein gwasanaethau ni i bawb.
Os ydych chi wedi dioddef trais, ymosodiad rhywiol neu gam-drin rhywiol ac rydych yn wrywaidd neu’n anneuaidd, gallwch gael yr union un lefel o wasanaeth a chymorth gan Llwybrau Newydd a byddem yn eich annog chi i siarad â ni.
Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARCs)
Mae ein Canolfannau SARC yn canolbwyntio’n llwyr arnoch chi a beth sydd ei eisiau a’i angen arnoch chi. Efallai y byddwch yn pryderu am ddweud wrth rhywun beth ddigwyddodd i chi gan nad ydych chi am i’r heddlu fod yn gysylltiedig neu oherwydd nid ydych chi’n gwybod beth yw eich opsiynau na’ch hawliau. Mae ein gwasanaethau yn gyfrinachol a byddwn yn gwrando arnoch ac yn eich credu, ac nid oes fyth unrhyw bwysau i roi gwybod i’r heddlu.
Gallwch ddarganfod mwy am beth yw SARC a’r gefnogaeth a gewch yn y fideos isod: