Amdanom ni: Rydym ni’n sefydliad anllywodraethol, sy’n cynnig gwasanaethau cymorth arbenigol i unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan drais rhywiol, yn ddiweddar neu yn y gorffennol. Ni yw darparwr mwyaf gwasanaethau cymorth trais rhywiol Cymru ac rydym yn ddarparwr blaenllaw hyfforddiant arbenigol ynghylch trais rhywiol.
Dechreuom bron i 30 mlynedd yn ôl fel llinell gymorth dan arweiniad gwirfoddolwyr i ddioddefwyr treisio ym Merthyr Tudful. Dros y 3 degawd diwethaf, mae ein gwasanaethau wedi tyfu i gynnwys eiriolaeth a gwasanaethau therapiwtig a chymorth i oedolion, pobl ifanc a phlant. Mae ein rolau llinell flaen yn cynnwys gweithwyr argyfwng, Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Rhywiol (ISVAs), gweithwyr cymorth trais rhywiol a chwnselwyr arbenigol.
Credwn fod ein cleientiaid yn haeddu’r gwasanaeth gorau posibl, ac rydym yn gweithio’n galed i gyflawni hyn. Os ydych chi’n meddwl bod gennych chi’r sgiliau a’r rhinweddau rydyn ni’n chwilio amdanyn nhw, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Amdanoch chi: Byddwch yn rhannu ein nodau ac yn ymgorffori ethos a gwerthoedd Llwybrau Newydd. Rydym ni’n chwilio am bobl sy’n llawn symbyliad, yn frwdfrydig, yn angerddol am ein gwaith ac sydd eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd pobl eraill.
Byddwch chi’n rhywun sy’n mwynhau ymwneud â phobl eraill a’u cefnogi, fel y gallant wneud y mwyaf o’u profiad, bydd gennych sgiliau trefnu da a byddwch yn meddu ar ddeallusrwydd emosiynol da. Bydd gwelliant parhaus yn rhan gynhenid o’ch dull gweithredu a byddwch yn ffynnu fel rhan bwysig o’n tîm ymroddedig.