``Rwyf mor gyffrous i fod yn rhan o brosiect ymchwil LHDTCIA+. Mae angen y gwaith ymchwil hwn yn fawr.``
Ymchwil Trais Rhywiol Llwybrau Newydd
Mae enw da iawn gan ein hadran hyfforddiant am gyflwyno hyfforddiant gyda’r gorau yn y sector ar drais rhywiol, ymarfer sy’n ystyriol o drawma, a diogelu, gan gyflwyno cyrsiau i gannoedd o weithwyr llinell flaen, llunwyr polisi ac aelodau’r cyhoedd bob blwyddyn; mae hefyd yn cynnwys coleg cwnsela ffyniannus sydd ag arbenigedd mewn gweithio gyda thrawma.
Rydym yn sefydliad cynhwysol sy’n cefnogi unrhyw un y mae trais rhywiol yn effeithio arnynt, waeth beth fo’u rhyw, oedran, cefndir, anabledd a chyfeiriadedd rhywiol, ac mae ein sylfaen cleientiaid yn adlewyrchu hyn. Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i ni o anghenion a chanlyniadau gwahanol gymunedau ac unigolion y mae trais rhywiol yn effeithio arnynt.
Os hoffech i ni gefnogi eich ymchwil, neu ein comisiynu i wneud ymchwil, anfonwch e-bost training@newpathways.org.uk i gysylltu.
Rhywfaint o’r ymchwil rydym wedi bod yn rhan ohono: